SL(5)127 - Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Asesiadau Llesiant Lleol) 2017

Cefndir a Phwrpas

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, wrth lunio asesiad llesiant o dan adran 37 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, roi sylw i’r adolygiad diweddaraf o ansawdd aer ar gyfer ei ardal awdurdod lleol a gyflawnwyd o dan adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a'r mapiau sŵn strategol diweddaraf a luniwyd o dan Ran 2 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 ac a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru.

Y weithdrefn

Negyddol

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn, sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad (Rheol Sefydlog 21.3(ii)).

-      Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, wrth lunio asesiadau llesiant, roi sylw i’r map sŵn strategol diweddaraf a luniwyd o dan Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 ac a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru.

-      Mae'r amserlen a nodir yn y ddeddfwriaeth yn darparu y dylai'r map diweddaraf fod wedi cael ei fabwysiadu gan Weinidogion Cymru erbyn diwedd mis Mehefin 2017. Fodd bynnag, mae'r linc a ddarparwyd yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer y map "diweddaraf" yn cysylltu â map o 2012.

-      Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod mapiau sŵn newydd i fod i gael eu cyhoeddi ar-lein erbyn diwedd 2017. Ond, fel y nodwyd uchod, dylai'r mapiau diweddaraf fod wedi cael eu mabwysiadu erbyn diwedd mis Mehefin 2017.

Y Goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Dim.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol, a Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 sy’n trosi’r Gyfarwyddeb i gyfraith Cymru, ill dau yn ei gwneud yn ofynnol i fapiau sŵn strategol sy’n “dangos y sefyllfa yn y flwyddyn galendr flaenorol” gael eu gwneud a’u mabwysiadu erbyn 30 Mehefin 2017. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r mapiau sŵn strategol gael eu cyhoeddi. Nid ydynt yn pennu erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid eu cyhoeddi. Mae’r Gyfarwyddeb, fodd bynnag, yn ei gwneud yn ofynnol adrodd i’r Comisiwn Ewropeaidd ar y mapiau sŵn strategol o fewn chwe mis i’r dyddiad a bennir ar gyfer eu gwneud a’u mabwysiadu, hynny yw erbyn diwedd mis Rhagfyr 2017. Fel a nodwyd yn y memorandwm esboniadol, nod Llywodraeth Cymru yw cyhoeddi’r mapiau sŵn diwygiedig ar gyfer Cymru ar wefan Lle erbyn yr un dyddiad.

 

Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i’r mapiau strategol ddangos y sefyllfa yn y flwyddyn galendr flaenorol, hynny yw yn 2016. Adolygodd Llywodraeth Cymru y mapiau sŵn strategol a wnaed yn 2012 (sy’n dangos y sefyllfa yn 2011) a daeth i’r casgliad nad oedd y mapiau ar gyfer prif ffyrdd ac ar gyfer diwydiant mewn crynodrefi yn gynrychioliadol mwyach ac, o ganlyniad, y byddai angen eu hail-wneud yn 2017. Nid yw data llif traffig yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer blwyddyn benodol ar gael i’w defnyddio mewn cyfrifiadau sŵn hyd oddeutu mis Mehefin yn y flwyddyn ganlynol, neu’n fuan cyn hynny. Pe bai mapiau sŵn strategol yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Mehefin 2017, byddai’n rhaid iddynt ddibynnu ar ddata llif traffig ar gyfer y flwyddyn 2015, felly ni fyddent yn adlewyrchu’r flwyddyn galendr flaenorol mewn gwirionedd. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod cyfiawnhad dros ohirio cyhoeddi’r mapiau sŵn newydd hyd ychydig cyn y terfyn amser ar gyfer adrodd a bennir yn y Gyfarwyddeb, sef mis Rhagfyr, gan fod hynny’n golygu y gall y mapiau a gyhoeddir, ac yr adroddir arnynt, gael eu cyfrifo ar sail y data llif traffig ar gyfer 2016, a hefyd ystyried newidiadau mwy diweddar i gynlluniau ffyrdd a’r boblogaeth breswyl nag a fyddai’n bosibl pe bai’r broses mapio sŵn wedi dod i ben ym mis Mehefin. O ganlyniad, bydd yr ardaloedd blaenoriaeth cynlluniau gweithredu ynghylch sŵn a gaiff eu pennu yn niwygiad 2018 i’r cynllun gweithredu ynghylch sŵn i Gymru yn seiliedig ar ddata llif traffig o 2016 yn hytrach na 2015, ynghyd â chynlluniau ffyrdd ac ystadegau poblogaeth breswyl mwy cyfredol na’r hyn a fyddai ar gael fel arall.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

29 Medi 2017